 
	Mesuryddion clyfar yw’r genhedlaeth nesaf o fesuryddion nwy a thrydan.
Maen nhw’n cael eu gosod mewn cartrefi ar draws Prydain Fawr heb unrhyw gost ychwanegol, i ddisodli mesuryddion traddodiadol gan gynnwys mesuryddion allwedd rhagdalu. Maen nhw’n mesur faint o nwy a thrydan rydych chi’n eu defnyddio yn ogystal â faint mae’n ei gostio i chi, ac yn dangos hynny ar sgrîn ynni cartref gyfleus.
Gyda gwell dealltwriaeth o’ch defnydd, mae’n haws gweld ble y gallwch chi wneud newidiadau bach i ostwng eich defnydd o ynni a lleihau eich allyriadau ynni. Gallai hyn arwain at filiau ynni is ac ôl troed carbon is.
Bydd mesuryddion clyfar a’r wybodaeth maen nhw’n ei darparu hefyd yn helpu Prydain i reoli’r galw a’r cyflenwad ynni yn well, ac i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o ynni gwynt a solar.
Petai pob aelwyd ym Mhrydain yn cael mesurydd clyfar, byddai’r arbedion CO2 y gallai Prydain eu gwneud yn cyfateb i’r arbedion a wneir gan oddeutu 70 miliwn o goed2.
Ynni Clyfar GB yw’r ymgyrch nid-er-elw, a gefnogir gan lywodraeth y DU sy’n helpu pawb ym Mhrydain i ddeall pwysigrwydd mesuryddion clyfar a’u manteision i bobl a’r amgylchedd.
Mae ein hymgyrch genedlaethol yn cyrraedd cartrefi a busnesau bach yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
MWY O WYBODAETH AM FESURYDDION CLYFAR 
 
						