Newid yn yr hinsawdd yw her ein hoes, ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae os ydym am gyrraedd ein targed o gyflawni allyriadau di-garbon net.
Mae angen i ni uwchraddio ein system ynni i un sy’n glyfar, yn hyblyg ac yn effeithlon er mwyn manteisio i’r eithaf ar ffynonellau ynni gwynt, ynni’r haul ac ynni adnewyddadwy eraill. Trwy ddata cywir a thechnoleg ddigidol, gallwn hefyd greu llwyfan ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd a fydd yn chwyldroi’r ffordd yr ydym yn cynhyrchu, storio, prynu ac yn defnyddio ynni.
Mesuryddion clyfar yw conglfaen yr uwchraddiad hwn, ac mae gosod mesurydd clyfar yn gam syml y gall pawb ei gymryd. Hebddynt, bydd gostwng ein hallyriadau carbon a chyflawni ein targedau newid yn yr hinsawdd yn cymryd mwy o amser, yn costio mwy ac yn llai cefnogol o ynni’r gwynt a’r haul a dulliau cynhyrchu trydan adnewyddadwy eraill1.
Petai pob aelwyd ym Mhrydain yn derbyn mesurydd clyfar, byddai’r arbedion CO2 posib yn cyfateb i’r arbedion a wneir gan tua 70 miliwn o goed2, cyfwerth â thros 100,000 o goed ym mhob etholaeth.
1. Delta-EE, Rôl mesuryddion clyfar wrth ymateb i newid yn yr hinsawdd, Mai 2019 2. Cyfanswm yr arbediad CO2 rhwng 2013 a 2034 yn seiliedig ar ragolygon swyddogol Llywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno mesuryddion clyfar, 2019. Mae angen gweithredu gan y defnyddiwr. Cyfwerth â CO2 yw'r cyfrifiadau allyriadau carbon